Ein Haddewid Amgylcheddol
Mae’n rhaid i ni amddiffyn ein hadnodd mwyaf gwerthfawr, ein hamgylchedd, ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol.
GWRTHBWYSO CARBON
​
Un goeden ar gyfer pob plentyn
Rydym yn addo plannu un goeden ar gyfer pob plentyn a gofrestrwyd yn ein meithrinfa. Mae coed yn amsugno carbon gan ei ddefnyddio i adeiladu eu boncyffion, brigau, gwreiddiau a’u dail.
ARBED DÅ´R
Cynaeafu Dŵr Glaw
Rydym yn addo lleihau’r defnydd o ddŵr drwy ddefnyddio system dŵr glaw a gyflenwir drwy ddisgyrchiant i lenwi a thynnu’r dŵr yn ein toiledau.
DI-BLASTIG
Dileu plastig untro
Rydym yn addo adnabod a gwaredu pob darn o blastig untro o fewn ein hamgylchedd.
Gall plastig fod yn ddefnydd anhygoel; yn gryf a gwydn. Byddwn yn defnyddio plastig yn gyfrifol a phan na fedrwn ei ddefnyddio eto, byddwn yn ei ailgylchu.
PRYNU LLEOL
Dod o hyd i nwyddau a bwyd yn lleol
Rydym yn addo prynu'n lleol lle bynnag y bo modd a lleihau milltiroedd bwyd. Byddwn yn prynu nwyddau a gynhyrchir yn ein cymuned ac yn cefnogi busnesau lleol.